SL(6)159 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

Yn dod i rym am 04.00 ddydd Gwener 11 Chwefror 2022, mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a disodli’r gofynion ynddynt, gan eu newid a’u cydgrynhoi. Y newidiadau allweddol yw bod y Rheoliadau hyn yn:

-     Ychwanegu 16 o wledydd at y rhestr o raglenni brechu cydnabyddedig a gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer personau sy'n ynysu yng Nghymru sydd wedi'u brechu yn y gwledydd hynny (gall personau o'r fath roi'r gorau i ynysu);

-     Newid y gofynion profi ac ynysu ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd fel:

o  nad yw’n ofynnol i “deithwyr cymwys” (sy’n cynnwys personau sydd wedi’u brechu’n llawn a’r rheini o dan 18 oed) gynnal unrhyw brofion (ac, yn unol â’r sefyllfa bresennol, nid yw’n ofynnol iddynt ynysu wrth gyrraedd);

o  na fydd yn ofynnol i deithwyr anghymwys a ddechreuodd eu taith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ynysu wrth gyrraedd Cymru. Bydd dal yn ofynnol iddynt gymryd prawf cyn gadael a phrawf diwrnod 2;

o  bydd yn rhaid i bersonau sy’n cael canlyniad prawf positif ynysu yn unol â gofynion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020;

-     Newid yr amser ar gyfer llenwi ffurflen lleoli teithwyr i ddim mwy na 3 diwrnod cyn i berson gyrraedd Cymru;

-     Newid y wybodaeth sydd ei hangen mewn ffurflen lleoli teithwyr;

-     Newid eithriadau ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd i ofynion i lenwi ffurflen lleoli teithwyr a chael prawf.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu  Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru (Diwygiadau Amrywiol) 2021. Mae hyn yn dychwelyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 i’w sefyllfa fel ag yr oedd cyn gwneud y diwygiadau yn Rhan 3. O’r herwydd, rhaid i labordai preifat adrodd ar ganlyniadau COVID-19 (gan gynnwys dilyniannu dilyniannu genomaidd) a’r ffliw i swyddog priodol yr awdurdod lleol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau cyn pen 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fydd y Senedd: (i) wedi'i diddymu, neu (ii) ar doriad sy’n fwy na phedwar diwrnod) o'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pedwar pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 8(5) (ynghyd â pharagraff 1 o Atodlen 4) yn nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn i “brawf diwrnod 2” gydymffurfio â’r Rheoliadau. Mae rheoliad 8(5)(a) yn datgan nad yw prawf diwrnod 2 i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â rheoliad 8 oni bai bod y prawf yn cael ei gymryd heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd y person o dan sylw Gymru. Fodd bynnag, nid yw’n glir a yw hyn yn golygu y gall y person mewn gwirionedd gymryd prawf diwrnod 2 cyn diwrnod 2, er enghraifft, yn syth ar ôl iddo gyrraedd Cymru, neu a oes rhaid iddo aros tan yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y mae’n cyrraedd. Gellir dadlau ei bod yn eglur yn sgil teitl y prawf na ddylid ei gymryd yn gynharach na dechrau’r ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r person dan sylw yn cyrraedd Cymru, ond nid ydym yn ystyried bod hon sefyllfa foddhaol. Gofynnir i Lywodraeth Cymru, felly, egluro a ellir cymryd y prawf diwrnod 2 unrhyw bryd ar ôl i berson gyrraedd Cymru neu a oes rhaid ei sefyll ar ddiwrnod 2 mewn gwirionedd.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 8(7) yn darparu, pan fo oedolyn yn cyrraedd Cymru heb feddu ar y prawf diwrnod 2 sy’n ofynnol o dan reoliad 8(3), rhaid iddo gael y prawf hwnnw neu’r profion hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Fodd bynnag, nid yw rheoliad 8(3) yn ei gwneud yn ofynnol i oedolyn feddu ar brawf diwrnod 2 pan fydd yn cyrraedd Cymru, mae’n ei gwneud yn ofynnol iddo feddu ar archeb ar gyfer prawf diwrnod 2 gyda darparwr prawf pan fydd yn cyrraedd Cymru. At hynny, mae'n ymddangos bod y rheoliadau'n gofyn am un prawf diwrnod 2 prawf yn unig, ac eto mae rheoliad 8(7) yn cyfeirio at y “profion hynny”. Gofynnir i Lywodraeth Cymru, felly, i roi esboniad pellach o ystyr rheoliad 8(7).

3. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 16(2)(a)(iv) yn cyfeirio at “ffeil BAM wedi’i didoli” sy’n ymwneud â sampl a gymerwyd mewn perthynas â phrawf diwrnod 2 sydd wedi’i ddilyniannu. Nid yw'r Rheoliadau na'r Ddeddf alluogi yn darparu diffiniad ar gyfer y term “ffeil BAM wedi’i didoli”. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro neu ddiffinio’r geiriad hwn ymhellach yn rheoliad 16(2)(a)(iv).

4. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 18 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y Rheoliadau hyn a’u cymesuredd o leiaf unwaith bob 28 diwrnod. Fodd bynnag, mae'r Nodyn Esboniadol i'r Rheoliadau yn nodi bod yn rhaid cynnal adolygiadau o'r fath bob 21 diwrnod. Gwerthfawrogir nad yw'r Nodyn Esboniadol yn rhan o'r Rheoliadau ond mae'r Pwyllgor o'r farn bod yn rhaid iddo roi disgrifiad cywir o'r gyfraith sydd wedi’i chynnwys yn y Rheoliadau. Gofynnir, felly, i Lywodraeth Cymru egluro beth y mae’n bwriadu ei wneud er mwyn unioni’r anghysondeb hwn.

Rhinweddau: Craffu    

Nodwyd y pum pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn fod y rheol 21 diwrnod yn cael ei thorri (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a nodwn yr esboniad am dorri’r rheol a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 10 Chwefror 2022.

Yn benodol, nodwn fod y llythyr yn nodi fel a ganlyn:

Trwy beidio â chydymffurfio â’r confensiwn 21 diwrnod bydd modd i’r Rheoliadau hyn ddod i rym cyn gynted ag y bo modd a pharhau â'r dull pedair gwlad o ymdrin â theithio rhyngwladol. O ystyried y newid yn y dystiolaeth ynglŷn â’r risg mewn perthynas â'r clefyd hwn, ystyrir bod hyn yn angenrheidiol ac yn gyfiawn yn yr achos hwn.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Nid yw’r diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn newid y ffaith bod y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ymwneud â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol; mae’r Llywodraeth o’r farn y gellir eu cyfiawnhau at ddiben atal lledaeniad clefydau heintus a/neu y caniateir ymyriad ar y sail ei fod yn anelu at gyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth o’r farn hefyd eu bod yn gymesur.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Oherwydd y bygythiad newidiol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen i’r ymateb iechyd y cyhoedd gyd-fynd â’r sefyllfa wrth iddi newid, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn nad oes unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi fod y rheswm dros hynny fel a ganlyn:

oherwydd yr angen i’w rhoi ar waith ar frys er mwyn ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.”.

5. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod angen am y Rheoliadau hyn a’u cymesuredd i’w hadolygu bob 28 diwrnod ac y daw’r Rheoliadau i ben ar 31 Mai 2022.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwyntiau adrodd technegol yn unig.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

16 Chwefror 2022